Cymraeg
DEANERY CONFERENCE

Monday 9th June

7:30PM - Parish Rooms, St Peter's, Ruthin

PARISH CHURCHES OF THE DYFFRYN CLWYD DEANERY


St Peter - Llanbedr


St Garmon - Llanarmon


St Cynhafal - Llangynhafal


St. Cynfarch & St. Mary - Llanfair


St. Michael - Efenechtyd


St. Elidan - Llanelidan


St. Mwrog & St Mary - Llanfwrog


St. Mary - Cyffylliog


St. Foddyd - Clocaenog


St Saeran - Llanynys


Rhewl Church - Llanynys


St. Peter - Ruthin


St Meugan - Llanrhydd

 

Sermon: Pwysigrwydd Amser, Peryglon Amser, a Phwrpas Amser

DATE CHURCH SUBJECT PREACHER BIBLE REF.
30.12.07 Llangwyfan Church Pwysigrwydd Amser, Pergylon Amser, a Phwrpas Amser Yr Hybarch Bernard Thomas, Archddiacon Llanelwy Salm 90:12

“Dysg I ni felly gyfrif ein dyddiau: fel y dygom ein calon i ddoethineb.” 

Hyfryd cael eich presenoldeb yma yn eglwys hanesyddol Llangwyfan ar achlysur ein gwasanaeth  arferol  i’r ddwy ddeoniaeth, Dinbych a Dyffryn Clwyd, ar y pumed Sul.

Dyma ni ar ddiwedd yr hen flwyddyn ac yn nesáu at ddechrau’r flwyddyn newydd, dwy fil ag wyth. Gobeithio cawsoch chi Nadolig  bendigedig a heddychlon a gei fod ym mlith y cyntaf i ddymuno blwyddyn newydd dda i chi gyd. 

Rwyn gyfarwydd iawn a salm naw deg oherwydd dyma un o’r salmau a osodir  ar gyfer angladdau. Dyma’r salm sydd yn son am “nyddiau ein blynyddoedd- deng mlynedd a thrigain”. The days of our age are three score years and ten. Ar rai adegau o’r flwyddyn fe fyddwn yn fwy ymwybodol o amser a threigl amser. Achlysur angladd yw un ohonynt. Diwedd y flwyddyn a dechrau un newydd yw un arall. Cawn ein hatgoffa am amser a’I pwysigrwydd yn Salm naw deg. Cawn ein hatgoffa mai dros dro y mae pob un ohonom ar y ddaear ac mai bod tragwyddol ydyw Duw. Felly addasrwydd y salm yng ngwasanaeth y meirw.  Myfyrdod sydd yma ar fyrder bywyd dyn, a’I fod yn bechadur yn wyneb Duw y cyfiawn a’r tragwyddol.  Fel y dywedodd Alexander Maclaren yn ei lyfr ar y Salmau, “Psalm 90 preaches man’s mortality in immortal words”. 

Un arall a oedd wedi cael ei ysbrydoli gan salm naw deg oedd yr emynydd Isaac Watts pan gyfansoddodd y geiriau: O God our help in ages past, our hope for years to come. O Dduw ein nerth mewn oesoedd gynt, Ein gobaith wyt o hyd. Yn wyneb yr amgylchiadau a’r amodau bywyd, rhaid i ni fyw yn ddoeth ac ymgeisio at ddoethineb. Ceir yn y salm hon gan o ffydd gan ddyn wyneb yn wyneb a Duw, gan un sy’n ymwybodol o’r gwahaniaethau rhwng Duw a dyn: fod Duw yn anfeidrol, yn gyfiawn ac yn drugarog a bod dyn yn feidrol ac yn bechadur.  Felly , gweddïa’r Salmydd am ddoethineb oddi wrth Dduw fel y gall gyfrif ei ddyddiau- hynny yw, gwneud y defnydd  gorau o’r amser prin sydd ganddo yn hyn o fyd. “Dysg I ni felly gyfrif ein dyddiau: fel y dygom ein calon i ddoethineb.” 

Nawr wrth feddwl am y testun yma, adnod deuddeg o salm naw deg, ac fel pregethwyr gynt, mae gen i dri pheth i’w son amdanynt.  Pwysigrwydd amser, peryglon amser, a phwrpas amser. 

Pwysigrwydd amser. Mae amser yn bwysig i bawb, am fod pob un ohonom yn feidrol, ac am fod gennym amser penodedig yn hyn o fyd.. Er mor alluog a dyfeisgar ydyw dyn, bywyd a therfyn iddo sydd ganddo ar y ddaear. Rhodd oddi wrth Dduw yw amser. Yr Arglwydd a roddodd, a’r Arglwydd a ddygodd ymaith.” Nol at wasanaeth angladd, mae’n ddrwg gennyf. Felly, rhaid i ni  ystyried yn ddoeth rhag i ni golli amser, gwastraffu amser, lladd amser, a chamddefnyddio amser. 

Wrth son am ddeng mlynedd a thrigain fel dyddiau ein blynyddoedd, mae’r salmydd yn mynd ymlaen  fel hyn  “….Ac os o gryfder y cyrhaeddir pedwar ugain mlynedd, eto eu nerth sydd boen a blinder canys ebrwydd y derfydd a ni a ehedwn ymaith” Sylweddolwn mor fyr yw ein bywyd. Os cyrhaeddwn oes yr addewid, ac os cysgwn wyth awr y noson fe fyddwn wedi treulio tua thair ar hugain  blynedd yn cysgu. Felly, faint sydd â rôl? Cawn y teimlad fod amser rhywsut yn mynd yn gyflymach  am fod fwy o alwadau arnom- fwy o fynd a dod a dim amser i feddwl. Mae rhai fel y Mad Hatter yn Alice in Wonderland, sydd yn  rhedeg nôl ac ymlaen a’i wats yn ei law gan weiddi “I’m late, i’m late for a very important date.” 

Yn yr amser sydd gennym, a ydym yn gwahaniaethu rhwng da a drwg? A ydym yn dewis y da bob tro? Mae’r amser gennym ac mae’r dewis gennym. Nol unwaith eto, mae’n ddrwg gen I, at y gwasanaeth angladd. Yng nghanol bywyd yr ydym mewn angau. Yr ydym i gyd i gael ein newid, mewn eiliad, ar drawiad amrant Mae’n syndod gymaint o ddaioni a chymaint o ddrygioni sy’n gallu digwydd mewn cyfnod byr o amser. Yn ystod y flwyddyn sydd wedi mynd heibio, sawl sydd wedi cael ei dinistrio gan fom neu ddryll mewn moment, mewn eiliad. Sawl sydd wedi cael ei hunan-barch ei ddinistrio geiriau cas? Ond mae’r un mor hawdd penderfynu caru gelyn, cydweithio a chymydog a gwneud daioni i’r rhai sydd mewn angen am gymorth. 

Mae’n rhaid i ni, felly, ddysgu cyfrif ein dyddiau trwy sylweddoli pwysigrwydd amser a thrwy drefnu’n bywydau yn ofalus, am fod yr un gwerth yn perthyn i bob dydd. 

Ymlaen nawr at beryglon amser. Gall person byw mewn tri dimensiwn- y gorffennol, y presennol a’r dyfodol. Fel archddiacon   sy’n cwrdd â phob math o berson  yn y wahanol blwyfi rwy’n dod wyneb yn wyneb a phob un ohonynt. Mewn dyddiau anodd, ansicr a llawn problemau, mae’n demtasiwn i rai troi’r cloc yn ôl a cheisio byw yn y gorffennol- gafael yn y cyfarwydd mewn byd a chymdeithas anghyfarwydd. Mae’n hawdd derbyn cysur o’r gorffennol- y good old days. Cofio am hen bethau, hen ddigwyddiadau, hen ffyrdd o wneud pethau, hen wasanaethau, hen emynau, y pethau nad ydynt yr un peth ac na fyddant chwaith.  Rwy’n cofio cwrdd yn fy nyddiau cynnar yn yr esgobaeth gyda hen warden oedd yn dathlu rhyw deugain mlynedd fel warden. Chi wedi gweld sawl newid yn ystod eich cyfnod  fel warden, wedais i wrtho. Ydw, meddai, ac yr wyf  wedi ymladd yn erbyn pob un ohonynt? Mae’n beryglus iawn i fyw yn y gorffennol. Wrth gyfrif ein dyddiau rhaid tynnu maes o’n trysor yr hyn sydd hen a’r hyn sydd newydd. 

Eto mae rhai yn byw yn y dyfodol, yn dyheu am y dyfodol, dyheu am bethau sydd i ddod.  Gallwn drefnu cymaint o bethau ymlaen llaw'r dyddiau hyn. Cefais wahoddiad i siarad â rhyw grŵp yn ddiweddar ar ryw nos Fercher yn dwy fil a naw! Os byddai’n fyw ac yn iach oedd fy ymateb! Mae rhai yn edrych tuag at y dyfodol gormod: cyflog at ddiwedd yr wythnos, gwyliau nesaf, neu ryw achlysur arbennig. Maen nhw’n dymuno i amser fynd yn gyflymach er mwyn iddynt gyrraedd  yr hyn y maent yn breuddwydio amdano. Ond perygl hynny yw methu byw yn y presennol. Dyma’r person sy’n cerdded trwy fywyd a’i olygon at y sêr. Wrth edrych ar y sêr, nid yw’r person hwnnw’n gweld lle mae e’n cerdded. Dyma agwedd beryglus arall. 

Ond mae rhai hefyd yn byw dim ond yn y presennol heb feddwl am y  pethau sydd wedi mynd heibio, a heb unrhyw  weledigaeth ar gyfer y dyfodol. Dyma’r person sy’n cerdded trwy fywyd  a’i ben i lawr ac yn edrych ar ei draed. Y cwb sy’n bwysig iddo yw ei rhoi un droed o flaen y llall a’i fod yn dal i allu gwneud hynny. Nid yw’n meddwl i ba gyfeiriad yr ac na pha mor bell y mae e wedi cyrraedd. Peth peryglus arall. 

Y gamp mewn bywyd yw ceisio cyfuno’r gorffennol, y dyfodol a’r presennol. O wneud hynny gallwn osgoi rhai o beryglon amser, ac felly gael y doethineb  y mae’r salmydd yn son amdano. 

Yn olaf, beth yw pwrpas amser,  Beth yw pwrpas ein hamser ni ar y ddaear hon?  Cyfle I weithio a wened arian? Cyfle I hamdenna, I blesio ein hunain?  Nid felly y mae’r Cristion yn edrych ar bwrpas bywyd.   Ar ddechrau blwyddyn newydd beth yw ein hateb ni I’r cwestiwn yma? 

Gei awgrymu y canlynol:

Dymunwn ddod I adnabod dduw yn well yn ei greadigaeth yn yn ei ofalu tadol drosom

Dymynwn tyfu yn ein perthynas gyda Iesu Grist ein Harglwydd.

Dymunwn parhau I addoli Duw yn enw Iesu Grist trwy gymorth yr Ysbryd Glan, fel bydd ein bywyd yn gyfoethocaf a’n profiad yn helaethach a dyfnach a’n dealltwriaeth o’n bywyd yn y byd yn peri inni ystyried eraill. 

Sylweddolwn fod bywyd tragwyddol yn rhywbeth sy’n perthyn nid yn unig I’r byd a ddaw ond I’r presennol. Mae’r bywyd tragwyddol yn dechrau nawr, wrth i dderbyn Iesu fel Gwaredwr. Dyma bwrpas amser- dod i’w adnabod ef trwy ei addoli, trwy ei ddarganfod ar waith ym mywydau eraill, trwy ei weld ar waith yn ein bywydau ni. Dyma’r ffordd i iawn ddefnyddio amser.  Yn aml rydym yn clywed sawl yn dweud bod dim amser ganddynt i wneud y pethau sydd bwysig ganddynt. Amser I Dduw, amser i’w teuluoedd, amser iddynt eu hunain. Wel, mae’n amser iddyn nhw eistedd i lawr a rhoi trefn ar eu bywydau. Mae’n amser i ni, efallai, eistedd i lawr a rhoi trefn ar ein bywydau. 

Pa adeg well o’r flwyddyn na’i dechrau i fyfyrio ar y pethau hyn fel y gallwn, wrth ystyried amser, ddod a darganfod doethineb o’r newydd?  Blwyddyn newydd dda i chi gyd. 

Amen. 

(gyda chydnabyddiaeth I “Cau’r Adwy- gwasanaethau cyflawn i eglwysi”.)

Website designed and hosted by Cortina Web Solutions www.cortinawebsolutions.co.uk