
Mae hen eglwys ganoloesol Sant Pedr wedi sefyll fel
adfail ers 1862, pryd yr adeiladwyd eglwys newydd ar brif-ffordd A494. Dyma
eglwys brydferth a chanddi do a waliau streipiog a thyred-meindwr pigfain
yng nghanol mynwent dawel a hardd.
Yn y porth gwelir
hen garreg fedd sy'n dyddio o'r bedwaredd ganrif ar ddeg.
Nodweddion eraill
diddorol yw'r ffenestr liwgar ar fur y gorllewin a 'reredos' carreg y Swper
Olaf y tu ol i'r allor.
Encil o weddi a
distawrwydd yw'r eglwys hyd heddiw, ac y mae hi ar agor yn ystod y diwrnod.