OFFEIRIAD PLWYF 

 

Y Parchedig Huw Butler

Cyfeiriad The Rectory, Llanbedr Dyffryn Clwyd, RUTHIN, LL15 1UP
 
Contact hbutler@dyffrynclwyd.org.uk

AMSER Y GWASANAETHAU

 

Addoliad y Sul yn S.Garmon

Mae'r gwasanaethau yn Saesneg fel arfer ond weithiau yn ddwyiethog.

Y Sul 1af 9.30 yb. Cymun Teuluol
2ail Sul 9:30yb - Matins
3ydd Sul 9:30yb - Cymun
4ydd Sul 9:30yb -Cymun
5ed Sul 9:30yb - Cymun y Grwp (o gwmpas y bedair eglwys)

 

Addoliad yn yr wythnos yn S. Garmon

Dydd Iau 11:00yb - Cymun




Sefydliad hynafol yw Eglwys Sant Garmon. Erbyn y 9fed ganrif y gred oedd mai'r un oedd y Garmon hwn a Sant Germanus o Auxerre a ymwelodd a Phrydain yn 429 O.C.  Yn y 15ed ganrif ychwanegwyd rhan arall at gorff yr eglwys wreiddiol. Ym 1773 gosodwyd y pileri derw gwych a welir yn awr yn lle'r bwau cerrig oedd yn rhannu'r egwlys. Yn y rhan ddeheuol ceir cofeb i Gruffudd ap Llywelyn ap Ynyr (1320) a'r hyn y tybir ei fod yn rhan o gysegr Sant Garmon. Hefyd y mae canhwyllwyr a hen gist y plwyf i'w gweld.

O Ruthun, ewch ar ffordd yr Wyddgrug A494 a thrwy Llanbedr. Ewch am ddwy filltir wedyn hebio'r "Clwyd Gate". Ar ôl filltir eto, trowch i'r dde yn dilyn arwydd Llanarmon a dilynwch yr arwyddion i'r pentre. Mae'r eglwys ar y chwith.

Mae rhai o fysiau o Ruthun i'r Wyddgrug yn mynd trwy pentre Llanarmon. Ewch at safle Traveline Cymru am fanylion.

Mae plwy' Llanarmon yn cynnal digwyddiadau yn ystod y flwyddyn.

Anfonwch e-bost at y Rheithor hbutler@dyffrynclwyd.org.uk am fanylion.

 

Website arfaethedig a hosted at Cortina Gwe Atebion www.cortinawebsolutions.co.uk