Cynhadledd y Deoniaeth

Ystafell Plwy' S.Pedr, Rhuthun

Nos Lun Medi 14.  7 o'r gloch

 

 

 

 

 
Clocaenog
Cyffylliog
Efenechtyd
Llanarmon
Llanbedr
Llanelidan
Llanfair
Llanfwrog
Llangynhafal
Llanrhydd
Llanychan
Llanynys
Rhuthun

Dyma safle eglwysi a'r plwyfi Deoniaeth Dyffryn Clwyd yng Ngogledd Cymru yn Esgobaeth Llanelwy, un o'r chwech esgobaeth Yr Eglwys yng Nghymru. Ardal amaethyddol yw Deoniaeth Dyffryn Clwyd, gyda'r dref farchnad Ruthun yn ei ganol. Mae tri ar ddeg o blwyfi yn cael eu gwasanaethu gan bedwar offeiriad  a phedwar darllenydd, gyda chymorth gan offeiriaid wedi eu ymddeol. 

Mae'r plwyfi wedi gweithio gyda'i gilydd ers blynyddoedd llawer a hefyd maen nhw'n rhannu ei addoliad weithiau.  Mae'r offeiriaid yn cwrdd bob bore Llun am weddi a hefyd yn gyson am gyfarfod  y Siapter . Mae'r Cynhadledd y Deoniaeth yn cwrdd pedwar gwaith y flwyddyn ac yn fwyfwy yn cyd-drefnu adnoddau i'r deoniaeth yn gyffredin ac yn cynllunio ar gyfer y dyfodol.

Yn y Deoniaeth mae llawer moddion o addolaid yn Gymraeg ac yn Saesneg.  Mae hyn yn cynnwys addoliad traddodiadol Anglicanaidd a hefyd addoliad anffurfiol cyfoesol.  Gobeithiwn y byddwch yn cael gymorth a gwybodaeth o'r safle hwn ac y byddwch yn ymweld a'n heglwysi i addoli gyda ni. Bydd croeso cynnes i chi ym mhob un o'r eglwysi.

Ar y safle hwn, gallwch chi weld wybodaeth am bob eglwys yn ein deoniaeth.  Mi welwch chi fanylion am amser y gwasanaethau a digwyddiadau eraill yn ein heglwysi, fel cyngherddau.  Os ydych yn chwilio i gysylltu gyda unrhyw eglwys am ichi drefnu bedydd, priodas neu angladd, neu os ydych chi’n chwilio am wybodaeth gyffredin a beth yw’r Eglwys, cysylltwch a ni trwy’r safle hwn.

Hefyd, mae gan y safle wybodaeth am sut mae’r plwyfi yn cysylltu gyda’r cymunedau, a hefyd sut mae nhw’n cysylltu gyda’r Eglwys ym mhob man,

Os gennych chi ddiddorbeb mewn adeiladau eglwysig,  lle bendigedig i ymweld a’r hen eglwysi yw Dyffryn Clwyd. Mae’r rhan fwyaf ohonyn nhw yn mynd yn ol i’r canoloesoedd, a llawer ohonyn nhw wedi cael eu sefydlu fel cymundedau Cristnogol ers amserau Celtaidd.

Y Parchedig John. B. Davies



 

 

Website arfaethedig a hosted at Cortina Gwe Atebion www.cortinawebsolutions.co.uk